| Prosesu Delweddau o'r Corona |
|
Mae technegau prosesu delweddau newydd yn cael eu defnyddio ar arsylwiadau tra-Uwch-Fioled a golau gwyn o'r corona. Mae'r delweddau newydd yn dangos manylion hynod yn ogystal a braslun cywir o'r strwythur mwyaf. Mae'r lluniau isod yn dangos ffrwydriad coronaidd yn chwythu o'r haul i'r gogledd-orllewin. Rydym yn dangos yma rhan o'r corona rhwng 2.3 a 16 radii solar drwy cyfuno arsylwiadau gan ddau coronagraff sydd ar y llong ofod SOHO (LASCO C2 a C3). Sylwer ar y strwythur manwl o fewn y ffrwydriad, a'r ysgytwad mae strwythurau o amgylch y ffrwydriad yn ei dderbyn.
Ffrwydriad coronaidd 2000/12/03 neu cliciwch yma i weld animeiddiad Mae'r technegau newydd yn ein galluogi i gyfuno data o wahanol offerynau arsylwi yn hawdd. Yn y delweddau uchod, er enghraifft, mae'n anodd gweld y ffin rhwng y ddau coronagraff C2 a C3. Mae'r ddelwedd isod yn dangos arsylwiadau gan 4 offeryn. O'r haul allan i'r gofod: delweddwr tra-Uwch-Fioled o'r enw EIT (SOHO), coronagraff ar fynydd Hawaii Mauna Loa (MLSO MKIV), yna LASCO C2 a C3 (SOHO).
|
