![]() |
Huw Morgan Ymchwilydd Uwchddoethurol Institute for Astronomy 2680 Woodlawn Drive Honolulu HI 96822 USA hmorgan@ifa.hawaii.edu |
Prif Meysydd Ymchwil
Maes magnetig yr haul sy'n rheoli strwythur y corona. Yn anffodus, does dim modd uniongyrchol o fesur na gweld y maes magnetig hwn. Gellir defnyddio dwysedd y corona fel arwydd o'r maes magnetig, a fy mhwriad yw datblygu technegau i wneud defnydd llawn o'r wybodaeth sydd i'w gael o'r arsylwiadau safonol sy'n cael eu gwneud heddiw, ac i greu sail arsylwiadol i astudio topoleg y corona tawel a bwyiog. Ers deng mlynedd bellach mae'r llong ofod SOHO (uchod) yn arsylwi'r haul a'r corona. Mae llawer o wybodaeth eto i'w ddarganfod yn y data cyfoethog yma. Bwriad fy ymchwil yw creu modelau o'r corona sydd wedi eu seilio ar, a'u cyfyngu gan, yr arsylwiadau hyn. Yn sgil y gwaith modeli, mae modd profi nifer o syniadau cyfoes am yr haul a'r corona. Prosesu Delweddau o'r Corona Strwythur y Corona Golau UwchFioled o'r Corona (UVCS/SoHO) |
|
Curriculum Vitae Dyma gopi diweddar o'm curriculum vitae ar ffurf dogfen .pdf. I lwytho Adobe Acrobat, cliciwch yma. |
|
Diddordebau Baswca Gitar/Ffidil Cerdded, nofio a darllen Adegau hapusa' fy mywyd Defaid 1990 - Dolgellau! |
